Klik på en miniature for at gå til Google Books
Indlæser... Hiwmor Pwsaf Dewi Pws Morris
Ingen Indlæser...
Bliv medlem af LibraryThing for at finde ud af, om du vil kunne lide denne bog. Der er ingen diskussionstråde på Snak om denne bog. Ingen anmeldelser
Weithiau, cyn i raglen deledu gychwyn, mi gewch chi rybudd ynglŷn â’r cynnwys – ac ymateb mewn un o ddwy ffordd. Naill ai mi wnewch chi droi i sianel arall neu ddiffodd y bocs, neu mi wnewch chi setlo lawr i wylio’n eiddgar. Ar ôl agor clawr Hiwmor Pws, dwi wedi dod i’r casgliad fod yr un peth yn wir am ragymadrodd llyfr. Darllenwch bwt Lyn Ebenezer, sy’n amlinellu dim ond rhai o’i brofiadau o ymwneud â’r Bonwr Morris dros y blynyddoedd, ac mi fyddwch chi’n dallt. Be gewch chi yng ngweddill y llyfr ydy casgliad o gerddi doniol amrywiol a jôcs – rhai byr, rhai hirach a rhai ‘amheus’. Mae ’na ddetholiad o eiriau olaf cofiadwy (ambell i berl yn eu plith, yn cynnwys ‘I fod yn onest, o’dd dy whâr yn well reid...’) a dwsinau o straeon dan amrywiol benawdau, o'r byd meddygol i fyd y fenyw. Mae hi'n werth prynu'r gyfrol er mwyn clywed y stori am Prins Charles ar ei ffordd i Steddfod Aberteifi yn unig. Gan mai pethau i'w hadrodd ar lafar ydy jôcs yn eu hanfod, maen nhw’n medru colli cymaint o’u lliw ar ddu a gwyn. Ond dyna lle mae dychymyg yn camu i’r adwy – wrth ddarllen, triwch ddychmygu Pws yn eu dweud nhw, efo’r wên ddireidus ’na sydd wastad ar ei wyneb, ac yn sydyn, maen nhw’n dod yn fyw. Os ydy hi’n wir mai hiwmor ydy’r ffisig gora’, buddsoddwch mewn copi o Hiwmor Pws. Dio’m bwys os dach chi’n iach rŵan – falla byddwch chi’n teimlo’n giami rywbryd. A phan fyddwch chi, gewch chi arbed trip i’r fferyllfa, achos mi fydd gynnoch chi feddyginiaeth wrth law eisoes. Yr unig beryg ydy y gwnewch chi chwerthin eich hun ’nôl yn sâl ... Belongs to SeriesCyfres ti'n jocan (2007)
A book containing humorous material by one of Wales's most colourful characters. Includes a collection of poems, jokes and stories, both true and absurd by the Swansea-born comedian who now lives in Tre-saith, Ceredigion. No library descriptions found. |
Current DiscussionsIngen
Google Books — Indlæser... GenrerNo genres VurderingGennemsnit: Ingen vurdering.Er det dig?Bliv LibraryThing-forfatter. |