Klik på en miniature for at gå til Google Books
Indlæser... Hiwmor y Cardiaf Emyr Llywelyn
Ingen Indlæser...
Bliv medlem af LibraryThing for at finde ud af, om du vil kunne lide denne bog. Der er ingen diskussionstråde på Snak om denne bog. Ingen anmeldelser
Ym 1934, cyhoeddwyd Cerddi Digri a Rhai Pethau Eraill, casgliad o ganeuon a cherddi ysgafn gan y digrifwr Idwal Jones. Cyflwynodd y gyfrol i Waldo, ei ffrind mawr ac un o gewri’r genedl: ‘I Waldo Goronwy Williams, am fy nghadw ar ddihun y nos yn cyfansoddi limrigau, lawer tro, pan ddylswn fod yn cysgu. Oni bai am ddynion o’i fath ef achubid Cymru rhag rhywbeth fel hyn.’ Wrth adolygu Hiwmor y Cardi dwedaf innau yn gwbl groes, sef bod Emyr Llywelyn yn y gyfrol hon wedi achub llawer o gyfoeth y genedl rhag diflannu am byth. Mae doniolwch, rhigymau ysgafn a hanesion troeon trwstan bob amser i’w croesawu gan bawb, a dyma gyfrol arall ddifyrrus iawn yn y gyfres ‘Ti’n Jocan’, wedi ei hysgrifennu gan Gardi. Mae yma storïau at ddant pawb, yr ifanc a’r hen: hiwmor a gonestrwydd plant o brofiad yr awdur fel athro; rhigymau a adroddwyd gan genedlaethau o blant ysgolion cynradd, a disgrifiad o gymeriadau amrywiol, fel y prifeirdd S.B. Jones a Sarnicol, beirdd gwlad fel Tydfor ac Isfoel a digrifwyr fel Eirwyn Pontsiân, gyda dyfyniadau o’u gwaith, heb sôn am y ‘nythaid o feirdd’ yng ngodre’r sir. Daw llu o atgofion wrth ddarllen ‘Y Dyn Dierth’ (S.B. Jones), darn a adroddwyd gan D.J. Lloyd, Pontarsais yn eisteddfodau’r wlad hanner canrif a mwy yn ôl er na feddyliais erioed fod y darn yn un mor hir. Mae’r awdur hefyd yn dyfynnu gwaith Idwal Jones a D. Jacob Davies - caneuon ysgafn y bu bri mawr arnynt wrth eu canu mewn llu o gyngherddau welcome home yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae llyfrau Idwal Jones a Jacob yn fy meddiant ers dyddiau fy mhlentyndod, llyfrau a ysgrifennwyd ‘nid i’r doeth a’r deallus ond i’r bobol gyffredin’, er mawr bleser i mi a’m tebyg. Trysoraf y llyfrau yma fel y gwnaf yn siŵr drysori Hiwmor y Cardi gan Emyr Llywelyn. Dyma gyfrol ddifyr iawn, cyfrol y dylai pob Cardi sy’n gwerthfawrogi hiwmor a doniolwch fod yn berchen arni, yn arbennig felly Gardi oddi cartref fel fi oherwydd y pleser ychwanegol a geir yn sgil yr atgofion ddaw wrth ei darllen. Belongs to SeriesCyfres ti'n jocan (2006)
A collection of jokes and humorous stories about the inhabitants of Cardiganshire, by Emyr Llewelyn. No library descriptions found. |
Current DiscussionsIngen
Google Books — Indlæser... GenrerNo genres VurderingGennemsnit: Ingen vurdering.Er det dig?Bliv LibraryThing-forfatter. |